Gwneud y gorau o’ch geiriau

Amdanaf i

sarah-philpott
Eisiau dweud rhywbeth ond bod y geiriau ar goll? Rydw i yma i’ch helpu.

Sarah ydw i, prawfddarllenwr ac ysgrifennwr copi dwyieithog sy’n byw yn ne Cymru.

Rwy’n arbenigo mewn ysgrifennu am fwyd (gallwch chi ddarllen fy mlog yma), ond fe gewch chi gopi cryf a chlir, beth bynnag yw’r pwnc.

Dros y blynyddoedd, rydw i wedi ysgrifennu a golygu ar gyfer nifer o gyhoeddiadau ac rydw i hefyd yn cynnig gwasanaeth fel ymgynghorydd cyfathrebu.

Rwy’n cynnig gwasanaeth proffesiynol a phersonol ac rwy’n hapus i weithio drwy’r Gymraeg, Saesneg neu’r ddwy iaith.

Dyma rhai o’r bobl rydw i wedi gweithio gyda nhw

Sarah Philpott - Proofreading and copywriting clients

Sut gallaf helpu

Prawfddarllen

Angen rhywun i wirio’ch gwaith? Gallaf olygu copi ar bapur neu ar-lein i sicrhau ei fod yn gwneud yr argraff gywir. Mae gen i brofiad o olygu gwahanol fathau o waith gan gynnwys traethodau a thesisau academig, gwefannau a blogiau.

Ysgrifennu copi

Geiriau ar goll? Os oes angen copi ar gyfer gwefan, datganiad i’r wasg neu’r geiriau gorau ar gyfer ymgyrch sy’n ysbrydoli, rhowch ganiad i fi. Rydw i wedi ysgrifennu copi print a gwefan ar gyfer busnesau mawr a bach, cwmnïau cyhoeddi a llawer mwy. Testun trawiadol – fel taw chi sydd wedi eu hysgrifennu.

Cyfathrebu, cysylltiadau cyhoeddus, marchnata – a phopeth arall

Sut ydych chi’n cyfleu eich stori? Mae gen i dros wyth blynedd o brofiad yn y byd cyfathrebu a marchnata felly gallaf eich helpu. Efallai bod angen cymorth arnoch i drefnu lansiad mawr, creu cynllun cyfathrebu, neu gael sgŵp yn y newyddion – neu efallai bod cyfryngau cymdeithasol yn codi ofn! Beth bynnag yw hi, byddaf yn creu cynnwys sy’n addas i chi a’ch cynulleidfa.

Ysgrifennu bwyd

Bwyta yw bywyd; ydych chi’n cytuno? Rwy’n ysgrifennu a blogio am fwyd ac mae gen i lyfr coginio ar y ffordd. Os oes angen geiriau ar gyfer gwefan, bwydlen, cyfryngau cymdeithasol neu unrhywbeth arall, gwnaf yn siŵr eu bod yn flasus tu hwnt.

Mae’r cwsmer wastad yn gywir! Dyma beth mae pobl yn dweud ynglŷn â fy ngwaith…

Rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda Sarah a gallwn wastad dibynnu arni i ysgrifennu copi atyniadol a gwybodus sydd yn apelio at amrywiaeth o ddarllenwyr. Er ei bod yn ysgrifennu am fwyd i lysfwytawyr a figaniaid yn bennaf, gall troi ei llaw at unrhyw beth.

Charlie Harding, Pennaeth Cynnwys a Chyfryngau Cymdeithasol, Wriggle

Roedd hi’n bleser gweithio gyda Sarah ac roedd hi wastad yna i ateb unrhyw gwestiynau. Mae hi’n
gyfeillgar, dibynadwy a phroffesiynol.

Sawlat Zamau, cynddisgybles Ysgol Fusnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd

Mae Sarah yn hen law ar y byd cyfathrebu a PR; mae ei bys ar y pyls a chanddi creadigedd unigryw i’w gynnig. Nid oes ofn ceisio syniadau newydd a herio’r hen drefn. Hyfryd a hawdd oedd gweithio gyda hi.

Bethan Lloyd, Rheolwr Cyfathrebu, RSPB Cymru

Roedd Sarah o gymorth mawr wrth wneud yn siwr bod fy thesis PhD yn gywir. Mae ei ffordd o weithio’n hyblyg, mae hi’n gyfeillgar ac mae ei phrisiau yn rhesymol. Byddaf yn sicr yn ei hargymell fel prawfddarllenwr.

Charlotte Pointon, cynddisgybles Ysgol Fusnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd

Mae Sarah yn hollol broffesiynol ac mae’n bleser llwyr i weithio gyda hi. Mae’n hyblyg, yn gweithio’n brydlon ac yn hollol ddibynadwy.

Rebecca Rideal, adademydd, golygydd The History Vault ac awdur 1666: Plague, War and Hellfire

“Mae Sarah yn llawn syniadau gwreiddiol ac mae’n gallu gweithio i amserlen tynn ac o dan amgylchiadau anodd; er enghraifft, wrth cydlynu sawl mudiad gwahanol. Mae ei gwaith ysgrifennu yn arbennig o dda, gan gynnwys copi gwefan a hysbysebion, ac mae ganddi sgiliau ardderchog wrth ddod â phobl at ei gilydd, gweld y darlun ehangach ac adrodd stori.

Haf Elgar, Cadeirydd Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru

Gweithiwch gyda fi